Chaim Fester yn annerch Cyfarfod Coffa’r Holocost 2015 yn Eglwys Emaniwel


Grŵp Taith i Israel 2014. Arweinydd y Daith, Eric, yn annerch y grŵp yn Seilo


Felly, pam bod gan yr eglwys galon dros Israel? Oherwydd mai’r Iddewon sy’n parhau i fod yn bobl ddethol Duw a bod Israel yn ganolog i’w bwrpasau dyddiau diwethaf amser . Yn ôl Sechareia 14 ac Actau 1, mae Iesu am ddychwelyd at Fynydd yr Olewydd yn Nwyrain Jerwsalem i sefydlu’i deyrnasiad ar y ddaear er mwyn cyflawni’r cyfamod a wnaeth Duw gyda’r Brenin Dafydd.


Mae Paul yn dweud wrthyn ni i’r efengyl gael ei bregethu’n gyntaf i Abraham: Ac roedd yr ysgrifau sanctaidd wedi dweud ymlaen llaw fod Duw'n mynd i ddod â phobl sydd ddim yn Iddewon i berthynas iawn ag e'i hun, drwy iddyn nhw gredu ynddo. Rhannodd Duw'r newyddion da hynny gydag Abraham ymhell bell yn ôl: “Bydd gwledydd y byd i gyd yn cael eu bendithio trwot ti.” (Galatiaid 3:8). Y dyfyniad hwn, o Genesis 12, ydy lle mae Duw yn addo Abraham y bydd nid yn unig cenedl fawr yn dod trwyddo fe, ond hefyd eu hawl i’r tir sy’n cael ei nabod gennym fel Israel heddiw.


Yn Rhufeiniaid 11, mae Paul yn defnyddio’r delweddu o impio canghennau newydd ar goeden olewydd er mwy dangos sut mae’r Cenhedloedd yn cael eu himpio i mewn i Israel: “Mae rhai o'r canghennau wedi cael eu llifio i ffwrdd, a thithau'n sbrigyn o olewydden wyllt wedi cael dy impio yn eu lle. Felly rwyt ti bellach yn cael rhannu'r maeth sy'n dod o wreiddiau'r olewydden. 18 Ond paid meddwl dy fod ti'n wahanol i'r canghennau gafodd eu llifio i ffwrdd! Cofia mai dim ti sy'n cynnal y gwreiddiau — y gwreiddiau sy'n dy gynnal di!” (ad.17-18).


Mae Paul hefyd yn ein hatgoffa yn Effesiaid 2 ein bod unwaith “ddim yn perthyn i bobl Dduw, nac yn gwybod dim am yr addewid a'r ymrwymiad wnaeth Duw”(ad.12). Yn ddiweddarach yn y bennod, dywed: “Felly dych chi o'r cenhedloedd eraill ddim yn bobl estron mwyach, nac yn bobl sydd ‘y tu allan’. Dych chi bellach yn perthyn i genedl Dduw! [nid cymryd lle]. Dych chi'n aelodau o'i deulu!” (ad.19).


Fel rhan o’n hymrwymiad i Israel, rydym yn cefnogi gwaith Shevet Achim, fel y ceir disgrifiad ar dudalen arall. Mae hyn yn unol â geiriau Paul yn Rhufeiniaid 15: “Roedden nhw'n falch o gael cyfle i rannu fel hyn, am eu bod yn teimlo fod ganddyn nhw ddyled i'w thalu. Mae pobl y cenhedloedd wedi cael rhannu bendithion ysbrydol yr Iddewon, felly mae'n ddigon teg i'r Iddewon gael help materol.” (ad.27)

Pob blwyddyn, mae’r eglwys yn falch o gynnal coffâd dinesig o’r Holocost. Yn achlysur 2015, ein siaradwr gwadd oedd Chaim Fester. Yn 92 oed, mae’n un a oroesodd sawl gwersyll crynhoi Natsïaidd gan gynnwys Auschwitz a Bergen-Belsen. Rhannodd ei stori gyda chynulleidfa o dros 200 o bobl. Cafodd annerch dros 500 o fyfyrwyr ysgolion uwchradd lleol y diwrnod canlynol.


Yn ystod y blynyddoedd diweddar, rydym wedi cael nifer o siaradwyr gwahodd o Israel, gan gynnwys Iddewon Meseianaidd, Cristnogion Arabaidd a Bedwin sy’n ddiplomydd. Ymwelodd sawl aelod o’r eglwys ag Israel yn 2013. Yma, fe’u gwelir yn Seilo, lleoliad y Tabernacl am dros 300 mlynedd.


Os hoffech wybod mwy, lawrlwythwch y llyfryn “Chosen Race, Chosen Place”, yn rhad ac am ddim, yma.